Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021
Amser:
09.01 -
09.26
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Caroline Jones AS Dai Lloyd AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Sian Gwenllian; Roedd Dai Lloyd yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ohirio’r eitem a ganlyn tan 23 Mawrth:
· Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (10 munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o bell yr wythnos hon.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021 –
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau
COVID-19 (30 munud) -
tynnwyd yn ôl
· Datganiad gan y Prif Weinidog: COVID-19: Blwyddyn yn Ddiweddarach (45 munud)
· Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru (45 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (15 munud)
· Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (5 munud) - gohiriwyd o 16 Mawrth
·
Dadl: Llwybr Newydd –
Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru (60 munud)
- dataniad llafar
Dydd Mercher 24 Mawrth 2021
· Gorchymyn Diwygio Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2021 / Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud)
· Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 24 Mawrth 2021 –
·
Datganiadau 90 Eiliad (5
mun)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn Dilyn Etholiad Senedd
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau Amrywiol
o Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (15 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 05-21 (15 munud)
· Cyfnod Pleidleisio (15 munud)
· Datganiadau Cloi (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyflwyno adroddiad erbyn dydd Llun 22 Mawrth.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i fod i gael eu gwneud a'u gosod heddiw, a'u trafod ar 23 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor felly y dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rhain hefyd erbyn dydd Llun 22 Mawrth.
4.2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Cam-drin Domestig i graffu arno.
5 Busnes y Senedd
5.1 Trefniadau cyflwyno a gosod ar ôl yr etholiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes bod y Swyddfa Gyflwyno yn parhau i fod ar gau, ac ni fydd yn derbyn unrhyw fusnes tan ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd, ar wahân i dderbyn unrhyw fusnes lle mae’r amseru’n hanfodol neu ffurflenni cofrestru buddiannau, y gellir eu cyflwyno o 7 Mai ymlaen.
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd:
· caiff cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y ffordd arferol, gan nodi mai'r dyddiad olaf ar gyfer eu hateb fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu cyflwyno;
· y caiff cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno i’w hateb gan y Prif Weinidog, a fydd yn penderfynu pwy ddylai eu hateb, hyd nes y penodir Cabinet newydd; ac
· y caiff cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynir i Gomisiwn y Senedd eu cyflwyno i’w hateb gan y Llywydd.
6 Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft
6.1 Rheolau Sefydlog Dros Dro
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.
6.2 Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Canllawiau etholiadol y Senedd i Weinidogion a staff Llywodraeth Cymru
Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau ddarn o ganllawiau.
Unrhyw faterion eraill
Ail-osod Offerynnau Statudol
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y ffaith bod y Llywodraeth wedi tynnu'n ôl ac wedi ail-osod rhai Offerynnau Statudol drafft ddydd Gwener yn dilyn camgymeriadau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Gan fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn dal i edrych ar nifer o offerynnau statudol drafft, pe bai angen tynnu'n ôl ac ail-osod ymhellach, efallai na fydd digon o amser iddo gyflwyno adroddiad ac efallai y bydd angen ceisio atal offerynnau statudol i gynnal y dadleuon perthnasol.